Coleg Sant Pedr, Rhydychen

Coleg Sant Pedr, Prifysgol Rhydychen
Sefydlwyd 1929
Enwyd ar ôl Sant Pedr
Cyn enw Neuadd Pedr (1929-1961)
Lleoliad New Inn Hall Street, Rhydychen
Chwaer-Goleg dim chwaer-goleg
Prifathro Judith Buchanan
Graddedigion 350[1]
Graddedigion 198[1]
Myfyrwyr gwadd 19[1]
Gwefan www.spc.ox.ac.uk

Un o golegau cyfansoddol Prifysgol Rhydychen yw Coleg Sant Pedr (Saesneg: St Peter's College). Saif ar safle canolog yn Stryd New Inn Hall yn Rhydychen, Lloegr. Adeiladwyd ar safle dau o'r Inns hŷnaf y Canol Oesoedd, neu westai canoloesol y brifysgol – yr un Esgob Trellick, yn ddiweddarach New Inn Hall, a Rose Hall – sefydlwyd y ddau yn y 13eg ganrif.

Mae hanes y coleg modern yn dechrau yn 1929 pan sefydlwyd Neuadd Sant Pedr gan Francis James Chavasse, Esgob Anglicanaidd Lerpwl. Yn 1961, cafodd Neuadd Sant Pedr ei enwi yn goleg llawn Prifysgol Rhydychen â'r enw Coleg Sant Pedr. Cafodd ei ffurfio fel coleg dynion, ond ers 1979 mae wedi bodoli'n cydaddysgiadol.[2]

Yn 2019 roedd gan y coleg waddolion cyllidol o £49.6 miliwn.[3]

  1. 1.0 1.1 1.2 Niferoedd myfyrwyr, Rhagfyr 2016: Prifysgol Rhydychen; adalwyd 25 Mai 2017.
  2. "College History | www.spc.ox.ac.uk". www.spc.ox.ac.uk. Retrieved 4 May 2018.
  3. "St Peter's College University of Oxford : Annual Report & Financial Statements : For the year ended 31 July 2019" (PDF). ox.ac.uk. p. 13. Retrieved 4 April 2020.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search